Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwyddent ein hanghenion yn well na ni ein hunain. A nifer y rhai a'u credasant oedd ugain a phump.

Gwelwn fod y teimlad yn addfedu i gael achos Seisonig; ond ni ddychymygais y buasai a wnelwyf fi ddim ag ef, a hyny oherwydd y rhesymau canlynol: yr oedd fy ymlyniad yn fawr wrth yr achos Cymraeg. Yr oedd fy ysbryd hefyd wedi sori wrth weled cymaint oedd y difrawder a'r amddifadrwydd hollol o ysbryd llafur meddyliol a chrefyddol a nodweddai y rhai oeddynt fwyaf zelog dros y symudiad. Wrth edrych ar ein hen achosion Seisonig ar hyd y Goror, a meddwl am eu hystâd wywedig, amheuwn a oedd gennym y genius at y gwaith, ac ai ni fyddem fel Methodistiaid wedi cyflawni ein rhedegfa, ac wedi llenwi y cylch y bwriadwyd ni iddo gan Ragluniaeth pan ddarfyddai yr iaith Gymraeg, os oedd i ddarfod hefyd. Ond pa beth oedd i'w wneyd â'r Paganiaid Methodistaidd? Yr oedd yn gwestiwn difrifol. Penderfynais na fyddai i mi wrthwynebu y symudiad Seisonig, rhag fy mod yn ymladd yn erbyn Duw; ond ni ddangosais unrhyw zel o'i blaid am yr un rheswm.

I dori fy ystori yn fer—drwy gymhelliad taer a dirwasgiad y pelledigion, penderfynwyd cael achos Seisonig; ac o herwydd fy mod yn Sais gweddol, gwnaed apêl zelog ataf i ymuno â'r pioneers. Ufuddheais o gydwybod, ac nid o dueddfryd. Rhoddwyd cheers i ni gan y pelledigion, yr hyn oedd galongol. Wel, fy idea i am gychwyn achos oedd dechre drwy gynnal cyfarfodydd gweddïo, ac Ysgol Sul, a theimlo