Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr Ysmygwr

Pennod agoriadol i hanes anysgrifenedig.

Rwyf yn meddwl, ond nid wyf yn sicr, mai y flwyddyn 1876 neu 1877 ydoedd. Y gwaelaf yn y byd ydwyf am gofio dyddiau a blynyddau wedi yr elont heibio; ac oherwydd fy mod yn ymwybodol o'r diffyg hwn, a rhag poeni y darllenydd gydag anghysonderau, ni wnaf ond can lleied ag a allaf o gyfeiria lau at ddyddiadau, gan nad ydynt ar y goreu ond pethau sychion, ac oddiar yr ystyriaeth mai gwell i ddyn diofal beidio bod yn fanwl. Am yr adroddaf y ffeithiau yn gywir pa bwys am y dyddiad? Pethau amser ydyw dyddiadau, ond nid allwn ymysgwyd oddiwrth ffeithiau bywyd hyd yn nod yn y byd a ddaw. Ceidw rhai pobl ddydd lyfr yn yr hwn y croniclant eu teimladau, a'u gweithredoedd, a phrif ddygwyddiadau pob diwrnod o'u