Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydyw ei llenyddiaeth ysgrifenedig. Pa beth a ddaethai o'r Saesonaeg pe buasai ei llenyddiaeth yn gyfyngedig i'r Puritaniaid, ei philosophyddion, a'i hesgobion? A ydyw ieuenctyd Lloegr yn gyffredinol yn darllen Goodwin, Howe, Locke, a Stuart Mill? Ac a ellir dysgwyl i lanciau a lodesi Cymru yn gyffredinol ddarllen "Traethodau Dr. Edwards," " Emmanuel " Hiraethog, " y Gwyddoniadur," a llyfrau sylweddol Dr. Hughes? Y plant a biau TRYSORFA Y PLANT a llyfrau cyffelyb. Ac y mae y syniad wedi myned ar led—pa fodd, nis gwn—mai i'r pregethwyr, a'r blaenoriaid, a'r bobl dduwiol, y bwriedir y DRYSORFA fawr, y Dysgedydd, ac. Pa ddarpariaeth sydd gennym ar gyfer y werin ddigrefydd, a'n pobl ieuainc a fynnant gael darllen rhywbeth? Mae ein llenyddiaeth yn rhy unrhywiol, classic, trom, a phrudd. Yn eisieu llyfrau Cymraeg Cymreig—gwreiddiol, swynol, hawdd eu darllen, ond pur ac adeiladol. Mae yn yr iaith Saesonaeg doraeth o'r cyfryw.

Credaf hefyd fod mewn rhai lleoedd, o herwydd eu hamgylchiadau neillduol, wir anghen am achos Seisonig Methodistaidd, ac fod ein harweinwyr sydd yn fyw i'r anghen hwn yn onest yn eu zel ac yn haedda parch dauddyblyg. Tra yn dywedyd fel hyn, yr wyf yr un mor argyhoeddedig fod achos Seisonig wedi ei sefydlu mewn mwy nag un man gan y Methodistiaid a'r Annibynwyr heb ddim mwy yn galw am dano na rhodres a mursendod hanner dwsin o bersonau bydol a choegfalch, y rhai a ystyriant wybodaeth ammherffaith