Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyd yn hyn fod y supply yn cyfarfod y demand sydd yn mynwesau rhai brodyr zelog ac anwyl.

Dywedais ar y dechre y buaswn yn cymeryd pwyll; ond ti a weli mai "ar draws ac ar hyd" yr ysgrifenais; a gwn y buasai llygad llai Cymroaidd na'r eiddot ti yn canfod ambell dwll yn fy malad. Gyda'r achos Seisonig y mae fy llinynau, a chyda hwn yr wyf bellach yn penderfynu aros; ond pe buasai pawb fel myfi, ni fuasai achos am yr achos hwn, a buasai ein breintiau, mi gredaf, yn llawer uwch. Mae fy nghariad at efengyl Duw yn Gymraeg yn myned yn ddyfnach bob dydd. Mae rhyw bethau estronol yn dyfod i'n plith sydd yn trethu ein hiaith i ffurfio geiriau newyddion, megys "nodachfa" a'r cyffelyb; ond y mae meddwl a bwriadau Duw at fyd pechadurus yn gorwedd yn esmwyth a naturiol yn ei breichiau, ac yn cynghaneddu yn hyfryd â'i holl seiniau gwreiddiol a dymunol, fel pe buasai yr Anfeidrol Ddoeth wrth ein ffurfio yn genedl â'i lygad arnom fel dewisol bobl i fynegu ei ddadguddiedigaethau Ef. Yr wyf yn cydnabod ac yn mawrhâu defnyddioldeb a chyfoeth dihysbydd y Saesonaeg ynglyn â masnach a llenyddiaeth; ond pe byddai raid i mi gredu fod dyddiau ymadroddion Dwyfol y Bibl Cymraeg, y rhai sydd wedi ymgyfrodeddu â ni fel cenedl, a hymnau ysbrydoledig Pantycelyn, Ann Griffiths, ac Edward Jones, Maesyplwm, wedi eu rhifo, oerai fy nghalon ynof. Ond nid wyf yn gweled argoel o hyny. Er dyddiau'r dreth cyfododd gau brophwydi lawer, ac a fuont feirw; ond y mae yr