Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hen iaith yn arddangos cymaint o yni âg erioed. Mae iddi ddyfodol dysglaer, mi gredaf. Erbyn hyn y mae tywysogion a mawrion yn ei hastudio; a phwy ddydd yr oeddwn yn clywed eu bod yn sôn am ei dwyn i mewn i'n hysgolion dyddiol? Ac ai gwir yr ystori a glywais fod Cymry Llundain yn son am anfon cenadon i ddysgu Cymraeg i drigolion Cwmcadach-llestri? Gwnai hyn les, yn ddiammheu. Pa fodd bynag erfyniaf arnat i barhâu yn dy zel i ennyn chwaeth Gymreig yn y Cymry Methodistaidd, a'u hannog i beidio dilyn esiampl Richard John Davies, Ysw., yr hwn a aeth i Lundain ystalwm a'i drwyn o fewn llathen i gynffon llo. Wel, yr un modd a chyda phob symudiad cenedlaethol arall, rhaid i ni a'r Annibynwyr gymeryd y blaen i osod ein gwyneb yn erbyn dwyn i mewn yr arferion gan y Saeson sydd yn niweidiol i grefydd, megys gwneyd yr Ysgol Sabbothol yn sefydliad i blant yn unig, âc. Mae'r Eisteddfod wedi dirywio i fod yn lle i Gymry wyntio eu Saesonaeg, ac i ennill gwobrwyon am ganu; ac os cyll y pulpud a'r Ysgol Sabbothol eu nodweddion Cymreig, byddwn yn fuan wedi ein llyncu i fyny gan Ddicsiôndafyddiaeth. Pell y bo'r dydd!—

Yr eiddot yn gywir,

FRED.