Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bywyd. Os ydyw eu bywyd yn gyffelyb i'r eiddo fi ac i eiddo dynion yn gyffredin, ac os ydynt yn onest gyda'r gwaith hwn, da fyddai ganddynt, mi gredaf, gael hamdden cyn marw i'w losgi. Ond os ysgrifennu y maent bethau difyr i'w darllen ganddynt hwy eu hunain a chan eu perthynasau ryw amser sydd i ddyfod, yna rhagrithwyr ydynt, a chânt allan ryw dro fod llyfr coffadwriaeth arall yn bod cwbl wahanol o ran ei fanylion. Ond yr wyf yn meddwl, fel y dywedais, mai y flwyddyn 1876 ydoedd—tua chanol y cynhauaf ŷd. Yr oedd wedi bod yn dymor poeth iawn, ac yr oedd rhai ffermwyr yn gallu dyrnu eu hydoedd ar y maes cyn eu casglu i'w hŷdlanau. Mae ffaith fechan yn peri i mi gofio hyn : Yr oedd cynrychiolydd y Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor wedi anfon gair at y pen blaenor yma y byddai efe yn dyfod i'n hardal ar y diwrnod a'r diwrnod i ddadleu hawliau y Gymdeithas; ac yr oedd y pen blaenor yntau, yn ei dro,—yr hwn oedd fferm ŵr cyfrifol wedi anfon gair yn ôl i ddyweyd y byddai raid i'r cynrychiolydd oedi ei ymweliad oherwydd fod cyhoeddiad yr engine ddyrnu yn ein hardal ar y diwrnod hwnnw; yr hwn drefniant a hysbyswyd yn ei amser priod i'r frawdoliaeth ac a dderbyniodd gymeradwyaeth ddyladwy. Yr oeddwn yn feistr arnaf fy hun, fel y dywedir; hynny ydyw, gallwn fyned oddicartref heb ofyn cennad neb, ac aros cyhyd ag y mynnwn heb golledu neb ond fy hunan. Nid oedd gennyf na meistr na gwraig i ofyn caniatâd ganddynt. A hon