Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd rhagorfraint bennaf fy mywyd—rhyddid. Nid oedd gennyf ddim at fy nghynhaliaeth ond a enillwn gyda fy neng ewin—nid oeddwn yn anghenus ac nid oedd gennyf ond ychydig wrth gefn. Pa fodd bynnag, un bore, cefais ddrychfeddwl newydd, sef nad oeddwn lawn can iached ag y dylaswn fod. Yr wyf yn lled sicr erbyn hyn mai drychfeddwl ydoedd, oblegid dy i gydag ef fwy o bleser nag o ofid, a theimlwn braidd yn falch ohono, fel y gwna bardd o linell newydd, bert. Yn wir effeithiodd arnaf mor fawr nes fy nwyn i'r penderfyniad fy mod yn haeddu gŵyl, neu holiday, yr hwn beth mai ychydig, fel y tybiwn i, oedd yn ei haeddu, ac mai y rhai oedd yn ei haeddu leiaf oedd yn cael mwyaf ohono. Oddiar yr egwyddor pwyth rhag llaw a arbed naw, a rhag i mi waethygu, tybiais mai goreu po gyntaf yr awn oddicartref. Ni chymerodd i mi prin bum' mynyd i benderfynu ar y lle yr awn i dreulio fy ngŵyl, ac awgrymodd Llan drindod ei hun i mi ar unwaith. Gan mor gyflym y daeth y lle i fy meddwl, yr wyf erbyn hyn braidd yn tybied fy mod wedi penderfynu ar y lle cyn darganfod nad oeddwn mor iach ag y dymunaswn fod. Ni fuaswn erioed o'r blaen yn Llandrindod, ac eto, wedi darllen fwy nag unwaith y "Tridiau" a'r "Tridiau Eto," gan Glan Alun, teimlwn raddau o gydnabyddiaeth â'r lle. Cychwynais i'm taith, a phan oeddwn ar fy ffordd i'r orsaf yn myned heibio yr Hendre Fawr, gwelwn fod yr engine ddyrnu wedi dyfod yn ffyddlon i'w chyhoeddiad. Yn wir yr oedd hi wrthi