fod yn ddiystyr o lais ei gydwybod. Ond nid cydwybod ydyw yr oll o ddyn: mae ganddo ei ddymuniadau a'i dueddiadau, ac nid ydyw y rhai hyn bob amser yn cydgordio â llais ei gydwybod. A phan ddygwyddo yr anghydgord hwn, y fath ystumiau a wna dyn i geisio perswadio ei hun mai anghydgord naturiol, ys dywed y cantorion, ydyw, neu discord o angenrheidrwydd. Er mwyn gwneyd fy hun yn eglur,—a pha ddyben ydyw ysgrifennu os nad ysgrifennir yn eglur—a pha mor fynych y priodolir i ambell ysgrifennydd" ddyfnder " pryd nad ydyw mewn llawer amgylchiad yn ddim amgen na niwl, ac fe ŵyr pawb fod niwl, pa un bynnag ai naturiol ai meddyliol, yn gamarweiniol, ac yn peri i'r anghyfarwydd weithiau dybied ei fod yn canfod eidion, pryd mewn gwirionedd mai llo fydd o flaen ei lygaid—ond er mwyn gwneyd fy hun yn eglur, fel y dywedais, meddylier yn awr, er enghraifft, am ddyn a'i gydwybod yn dyweyd wrtho y dylai fynd i foddion gras—i'r cyfarfod gweddïo, neu i'r Ysgol Sul, (os ydyw yr Ysgol Sul yn foddion gras, oblegid tybia rhai dynion call y dyddiau hyn mai sefydliad i blant a phobl dlodion ydyw, a chredant pe buasai Mr. Charles ar dir y rhai byw pryd y mae gan Gymru dair o brif ysgolion, y gwelsai y ffolineb o annog pob dosbarth ac oedran o bobl i ddyfod ynghyd i ddarllen y Beibl) ac fod ei dueddfryd yn wrthwynebol hollol i hynny. Yn yr amgylchiad hwnw onid ydyw unrhyw esgus gwirioneddol neu ddychymygol sydd yn ffafrio ei ddymuniad ac yn tueddu i ddystewi ei gydwybod yn dra derbyniol ganddo?