Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wel, dyna oedd fy sefyllfa i pan oeddwn yn cychwyn i Landrindod. Dywedai fy nghydwybod fy mod yn berffaith iach; a'r cwestiwn a ofynnwn i mi fy hun oedd—a oedd gennyf hawl i dreulio nifer o ddyddiau oddicartref heb amcan uwch yn fy ngolwg na mwyn hau fy hun? Ammheuwn fy hawl, a dechreuais chwilio am amcan uwch, ac, fel y dywedais, bu agos i mi berswadio fy hun nad oeddwn yn gryf o ran fy iechyd. Ffansïwn fod y gydwybod yn ysgwyd ei phen arnaf. Ond pa beth a wyddai hi am ystâd iechyd dyn? pethau moesol oedd ei phethau hi, ac wrth ymyrraeth a rhoi ei barn 'ar bwnc o iechyd yr oedd yn myned allan o'i thiriogaeth. A chofiwn ddwy linell o hen gân, chwai i'r pwrpas—

Ac os na chaf fwynhau fy hun,
Waeth bod yn geffyl nag yn ddyn.

Heblaw hyny, pa raid oedd i mi fod yn well na fy nghymydogion? Yn sicr nid oeddwn yn cymeryd arnaf fy mod yn well na hwy; a gwyddwn nad oedd у rhai a adwaenwn i a arferent fyned i Landrindod yn blino eu hunain gyda chwestiynau o'r fath. Y ffaith oedd mai y rhai iachaf, gwridocaf, a hoenusaf, a welwn i bob amser yn myned yno. Dyna Mr. Jones, y Faenol Fawr, ffermwr bochgoch, cnodiog, croen yr hwn a ymddangosai bob amser yn rhy fychan i'w gorff, a'r hwn na welid un amser yn gwisgo menyg, am nad oedd yn bosibl cael y "size"—elai ef bob blwyddyn yn ddi-ffael i'r ffynonau. Dyna Mr. Prydderch, y draper, pictiwr o iechyd—yn werth ei fframio