Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn y flwyddyn, a allant fwynhâu newyddiadur yn y trên. Y mae ein "newyddion" yn yr hyn a welwn oddi allan yn hytrach nag yn y newyddiadur. Ond yr ydym yn dymuno ymddangos fel rhai arferol â theithio, ac yr ydym wedi cael allan mai yr arwydd ydyw—y newyddiadur, a chymeryd arnom ein bod wedi ymgolli ynddo. Y mae un arwydd arall, sef bod yn hollol ddiystyr o bawb a phobpeth oddifewn ac oddiallan, a ryw hanner cysgu a gofalu am ddeffro yn sydyn wrth ddyfod i station. Yr hwn a dalo sylw i'r arwyddion hyn, ac a ofalo na wna yr argraff a'r neb ei fod yn feddw, a all gael ei ystyried yn hen stager. Yr oeddwn wedi dewis y smoking compartment nid am fy mod mor hoff o ysmygu, fel y gŵyr pawb sydd yn fy adnabod, ond er mwyn diogelu fy hun rhag merched a babanod yn eu breichiau, a rhag personiaid—neu fel y dywed pobl Llandrindod, offeiriaid—yn enwedig yr rhai olaf; ac hefyd fel protest yn erbyn hymnbygoliaeth. Oblegid mi a wolais fwy nag un per son, ac eraill, o ran hyny, pan ddygwyddent ddyfod i compartment a rhywun yn ysmygu ynddo, yn y fan yn dechreu crychu eu trwynau, fel pe buasent yn cymer yd ffisig, yn pesychu, ac yn tagu, ac yn arddangos y fath wewyr o drueni fel y tybid eu bod ar drengu, tra y gwyddwn o'r goreu eu bod, pan fyddent gartref, yn byw ac yn bod mewn mwg tybaco. Ceisient ym ddangos eu bod yn ffieiddio yr arferiał ffol, ond yn fy ngolwg i oedd yn eu hadwaen, hymbygs oeddynt. Na chamddealled neb fi. Mi wn fod llawer yn casâu