Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hollol. Esgusodwch fi am ofyn dau beth i chi: ydach chi wedi priodi? ac ydach chi'n myn'd efo'r trên yn amal?

"Nac ydwyf, y naill na'r llall," atebais.

Hir y prathoch chi felly," ebe fe. " Cyn priodi mi fydde hon acw a fine yn myn'd am dro, wyddoch, ac yn cymyd diwrnod o holiday 'rwan ac yn y man; a mi fyddwn, wrth gwrs, yn smocio tipyn weithie—nid rhw lawer, a sigârs fyddwn i yn smocio pan fydde hi efo fi. A welsoch chi 'rioed mor ffond fydde hi o arogl y mŵg, a mi fydde yn synu pa wrth'nebiad oedd gan rai merched i ddyn fydde yn smocio. Ond toc ar oli ni briodi mi newidiodd my lady ei chân, a—wel, Hyny oeddwn i'n myn'd i ddeyd wrthoch chi—yr ydw i'n mynd efo'r trên i'r Mwythig unweth, ac weithie ddwyweth, bob wythnos; a fydda'i byth yn myn'd i smoking compartment na ddaw 'na ferched i mewn.' "Pa fodd yr ydych yn rhoddi cyfrif am hyny? ai am eu bod yn hoffi mŵg tybaco," gofynais.

"Dim peryg!" ebe fe, " ond gwybod y mae nhw y bydd yn y smoking compartment ddynion, a mi aiff merched i bob man lle bydd dynion, hyny ydi, merched ifinc a gwragedd gweddwon."

"Yr ydych yn rhy galed arnynt," ebe fi."

Ydach chi'n arfer betio?" gofynodd fy nghydymaith, ac wedi i mi ateb yn nacaol, ychwanegodd

"Ho, felly. Wel, does dim drwg mewn betio catied o dybaco? Dyma ni rwan just a chyrhaedd station Ruabon, ac os rhowch chi'ch llaw allan gan ddal eich