Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pibell yn y golwg, ac os na ddaw yma ferch i mewn aton ni, mi fyddaf wedi colli'r gatied. Treiwch chi."

O ran cywieinrwydd gwneuthum felly; a chan sicred a'r byd wele dynes ieuanc, ac nid anmhrydferth, gweddus ei gwisgiad, yn agor y drws. Yr oedd hi mewn "du" isel bris a ddynodai ei bod yn perthyn i'r dosbarth gweithiol a'i bod yn galaru ar ol rhywun. Duw wyr pa faint o hyny sydd yn myned ymlaen yn y byd o hyd! a phe gallai y "du" y mae ambell un yn ei wisgo ddangos y duwch sydd yn ei ysbryd, y gofid a'r hiraeth sydd yn ei galon, hwyrach y byddai llai o gynghori a mwy o gydymdeimlo yn bod. Pan oedd y ferch yn yr act o agor y drws, gwaeddodd fy nghyd deithiwr

"Wraig! rydan ni'n smocio yma!"

"Dim pws, yr odw i wedi hen arfer a hynni, ys gwn i," ebe'r ferch, ac i mewn a hi. Wrth ei chwt daeth i mewn ŵr brethynog—ond fod y brethyn dipyn yn ddigotwm—llaes ei gôb, a chantelog ei het. Gwisgai wasgod heb fotymau arni—yn y golwg o leiaf—ac ymddangosai ei du blaen fel ffrynt pulpud pan fyddo y gweinidog newydd farw, ond fod ar ei ffrynt ef—y gwr yr wyf yn son am dano—rai ysmotiau a ddangosent nad oedd efe wedi camgymeryd y compartment. Edrychodd o'i gwmpas yn gyffelyb, fel y tybiwn i, i'r modd yr edrychasai ar ei berchyll cyn cychwyn oddicartref, a gwthiodd ei hunan i'r gornel bellaf oddi wrthym, a rhoddodd besychiad cras, hyglyw, a'm hargyhoeddodd ei fod wedi ei hen arfer mewn Eglwys wag.