"Ac yr ydach chi wedi arfer a mwg tybaco?" ebe fy nghyd-deithiwr, fel apology wrth oleuo ei bibell ac ail ddechreu ysmygu.
"O odw, mwy nag y gwnâi eto ys gwn i prid," ebe y wraig.
"A ydwyf i ddeall, wraig fach, eich bod wedi colli'ch gŵr?" gofynnodd fy nghydymaith diseremoni. "Odw," ebe'r wraig, ac fel pe buasai yn falch o gael siarad ychwanegodd,—"Odw, syweth! Dos ond wthnos pan gleddes e, ac anghofia i hyni rhawg. Dos nemor gyda blwyddin er pan gwities i gartre, ond mi weles lywer tro ar fid ddâr hyni! I weini y dos i i'r lan o'r South, a thoc mi drewes arno e. Rodd e yn llencyn del a chwmws ddigon, a mine'n estron. Dai wiw mo'r son, dodd cwrdd na chapel na welwn i e. Y machgen glân! mae e heddi yn isel ei ben! Fe gerddws lywer i'r plas lle'r own i'n gweini i moin am dana' ar dywidd a hindda; dod nacâ arno. Dodd idde na thêd na mem, na browd na chwar. Mi testes e'n dost tu hwnt, a mawr mor front fûm wrtho e! Rodd arna i fai, mi wn, waith rodd y nghalon gydag e o'r funid gynta, oc os palle ddod i'r lan ar noson pwylmant, nid gwiw cawn gau fy llygaid hid adeg cwnnu, rhag ofan taw gwâl odd e, ne idde gwrdd a lodes decach. Ai e ai fi odd fwya ynfid, nis gwn i prun—dodd ddewis arnon. Cyn imi weini dou gwarter fe brodson; a heles air o hyni i mem am fis ne fw—waith rodd arna i gwiddil, ac nid heb reswm.—Dodd gynnon na thi na dodren na lle i drigo ond lodging. Ond pa iws son