Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am hyni'n awr. Ron ni'n ffero'n buron i aros ti, a fu dou yriod fw dedwdd—heb air na châs. Ond Duw sy'n rwlo! Toc gyda thri mis ar ôl i'n brodi heb arna i feddwl, fe frifws y ngwas gwrion yn y gwâth yn dost. Dâth arno e bywer o bwyse nas gwn i sut, a'i sigo'n Anghofia i'r diwarnod tra fw i biw! Pan weles e'n dod i'r lan mewn cert, a dou o'r dynnon ar i bws'n ei gynnal, mi ffentes off, a Duw a'm safodd rhag myn'd i mâs o'm co! Rodd ei lefe'n tori nghalon, a mowr odd y ngofid nad allwn shero'i bôn."

Yn у fan hon torrodd argae teimladau y weddw ieuanc, a dechreuodd wylo yn hidl, yr hyn a barodd i mi feddwl yn well ohoni, oblegid rhaid i mi ddyweyd fod ei dull o adrodd ei hanes yn ymddangos i mi braidd yn "iach." Siaradai yn gyflym, accenai ei geiriau yn groew a hyglyw, fel un yn adrodd dernyn o blank verse. Ond deallais am y tro cyntaf nad oedd teimlad gwir ofidus wedi ei gysylltu yn annatodol â thôn hirllaes a throm fel yr eiddom ni, y Gogleddwyr, a gwelais mai gwahaniaeth talaethiol yn unig a barai iddi hi ymddangos i mi yn iach ei hysbryd. Gwyddwn fod fy nghyd—ogleddwr yn teimlo yn gyffelyb i mi, ac i ni ein dau newid ein syniad am y weddw yr un foment. Anghofiodd fy nghydymaith fygu, ac edrychodd gyda llygaid llaith a thosturiol ar yr eneth, oblegid nid oedd hi, o ran oedran, ond geneth. Edrychai y person fel pe buasai yn gwrando ar un yn areithio ar Ddadgysylltiad, ac ni ddywedodd un ohonom air arosem i ruthr ei theimladau fyned drosodd. Yn y