Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffeindws fod ni'n derbyn lusen plw dodd arno e mwy ach whant cael biw. Serch hyni e lingrws yn hir. Y noson ola bu e biw, rown i ar'i bûs yn'i wylio. Rodd ei bône lywer llai, a mine'n meddwl taw gwell odd e. Fe slwmbrws; ac fe slwmbres ine a'm clustie'n agored. Nid hir y bu heb waeddi 'Mary?' 'Be sy fy machgen?' be fine. Be sy ar bobol y capel eisie yma'n nawr?' be fe. Dos dim ohonynt yma, machgen,' be fine. Oôs, maent o'r tu fas i'r ddôr yn canu'n brâf, chlywch chi monyn, Mary? be fe, ac fe geuws ei lygaid fel i wrando'n well, ac fe drengws, a mi greda byth taw canu'r Ne a glywe ngwâs. Rodd arna i whant cael trengu gydag e, waith dodd gen i ddim ar y ddaear wedi iddo e fyn'd i hido am dano. Dodd gen i beni i hela llythyr i mem. Fe ddaru'r Plw ei gladdu, a rown i'n crigo fwy nag y coeliech wrth weld ei goffin—rodd e'n wâl drosben—a mi goelia taw hen focs sebon odd e, a mi gries nes own i'n sick. Siawns y gwelsoch y relieving officer yn station yn moin tocyn i mi i'm hela gartre. Ac yno'n awr rw i'n mynd; ond ma nghalon gydag e 'n y fynwent yn mhlw Riwabon."

"Ymhle y mae eich cartre, wraig fach?" gofynodd yr ysmygwr.

"Aberdar," ebe hi.

"Oes gynoch chi deulu yno?" gofynodd eilwaith.

"Ma imi fem afiach a thlowd; ond 'dawn unweth yno mi fyddwn efo 'mhobol, a ma pobol y South yn gnesach a mw cymdogol."