Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Edrychodd yr ysmygwr i wyneb y person, cystal a dyweyd—"rhowch gynghor neu air o gysur i'r weddw ieuanc," a chymerodd yntau yr awgrym, ac ebe fe, "Mae o'n trugaredd mawr i chi bod chi'n ifanc a dim plant gynoch chi. Mi gellwch mynd i lle ar un weth, a dene peth gore i chi gneyd mynd i service at once. "

Wedi clywed cynghor y person, ebe yr ysmygwr, "Dydwi'n amme dim, wraig fach, nad ydach chi wedi dwad trwy lawer o helynt; ac yr ydw i wedi sylwi, ac yn brofiadol o'r peth fy hun, y gellir priodoli y rhan fwyaf, os nad yr oll, o helyntion y byd yma i'r ffaith fod pobol yn mynu priodi. Dydw i yn gwbod am ddim da yn deillio i neb o'r priodi yma ond i'r personiaid a'r pregethwyr—mae o'n rhan o'u hincwm nhw—yn enwedig y personiaid, achos mi glywes fod rhai o'r pregethwyr yn gneyd y job am ddim. Ond bydae pawb yn gneyd penderfyniad i beidio priodi mi fydde diwedd ar yr helyntion i gyd ymhen rhyw drugain mlynedd—fe âi pawb i ffwrdd yn ddystaw ac yn llonydd, ac fe fydde'r cwbl drosodd. Ond y mae yn debyg mai nid felly y bydd hi, a thra mae pawb ond ychydig o rai synwyrol—yn mynu priodi, 'does dim ond helyntion i'w dysgwyl yn oes oesoedd. Cyn i mi briodi—a chymeryd geneth ddiarth i'w chadw, nad oedd hi yn perthyn ddim byd i mi—yr oeddwn i yn berffaith hapus; ond ar ol gneyd y job hono, wel,—dawch am danaf! Ddiwrnod 'y mhriodas mi gês ddigon o Eglwys am byth bythoedd; ac felly dydw i