Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

blwyf ei hun i gyfranu ei arian, ac nad oedd efe yn adnabod y wraig oedd newydd adrodd ei hystori. " Dowch, dowch, peidiwch a bod yn galed, ŵr da," ebe'r ysmygwr. Yn gwneuthur daioni na ddiffygwn."

Digon gwir," ebe'r person, "ond mae isio edrach yn lle ac i pwy i gneyd daioni." "Risciwch hi am y tro, "ebe'r ysmygwr.—Be wyddoch chi na yriff rhagluniaeth briodas extra i chi am y weithred dda hon? Ac y mae amser y degwm yn ymyi, chwi wyddoch."

"Na, fi dim rhoi dim."

"Agorwch eich calon, frawd," ebe'r ysmygwr yn "Yr ydw i yn credu yn solet yn yr olyniaeth apostolaidd, a mi glywes fod pobpeth yn gyffredin ganddyn nhw. A mi gewch chi gredit am y weithred hyd yn nod bydae chi yn gneyd mistake; ond am danaf fi dydw i yn dysgwyl dim, achos yr ydw i wedi. fy gazettio mewn gweithredoedd da er's talwm. " Gyda llawer o ymadroddion eraill, ac yn hollol hamddenol, y blinodd, y cribodd ac y crafodd yr ysmygwr y gŵr eglwysig, gan ddefnyddio rhai geiriau rhyfygus, ac arfer hyfdra mawr, gyda'r canlyniad naturiol o chwerwi a brochi y person, yr hwn, o'r diwedd, a waeddodd allan yn ffyrnig

"Pa right sy gynoch chi i hymbygio fi? chi ddim yn gŵr boneddig."

Gwir bob gair, syr," ebe'r ysmygwr, gan danio ei getyn, " fum i 'rioed yn wrboneddig, a fydda i byth