Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwaith. Ffermwr tlawd ydw i, syr, a phrif amcan a diben 'y modolaeth i ydi talu degwm—i hyny y crewyd fi a fy sort. Gŵr boneddig wir! be bydae chi yn 'y ngweld i gartre, syr, mewn clôs cord ac yn faw at benau 'y ngliniau? adwaenech chi byth mona' i! Twyllo pobol yr ydw i, wyddoch, efo'r dillad brethyn yma; achos dydw i ddim wedi talu am danyn nhw, cofiwch. Mi fyddaf yn gneyd i'r teiliwr rodio wrth ffydd a byw mewn gobaith, ac yn deyd wrth y siopwr a'r gôf am gymeryd eu gwynt; ond bydawn i ddiwrnod ar ol heb dalu'r degwm fedrwn i ddim cysgu yn 'y ngwely, syr, gan gnofeydd cydwybod! Y diwrnod o'r blaen, syr, yr oeddwn i yn talu deunaw punt-ar-hugain o ddegwm, a choeliech chi byth mor hapus oeddwn i yn teimlo ar ol gneyd hyny! Beti, 'meddwn i wrth hon acw,' wyt ti ddim yn meddwl y mod i yn ddyn ods o liberal! Be wyt ti yn son am dy swllt yn y mis at yr achos! Dyma fi heddyw wedi talu agos i ddeugain punt i ddyn am bregethu'r Efengyl na chlywes i 'rioed mono yn agor ei geg, ond pan oedd o yn claddu fewyrth Nedmond mi dales iddo am y job hono ar ei phen ei hun. Son a wnaiff pobol am Rad Ras! Symol rhad, os gwelwch chi'n dda! Wyddost ti be, Bet, ' meddwn i, os na chawn ni fynd i'r nefoedd yn y diwedd mi fydd yn andros o gwilydd.—Dyma ti efo dy swllt yn y mis, a fine efo fy dros dair punt yn y mis, wel, siwr ddyn na wrthoda nhw monon ni yn y diwedd? ne mi ddylen droi'r arian yn ol—a mi fydde hyny i'r plant yma yn swm