Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

go deidi. Ond prun bynag, ' meddwn i, ' mae'r degwm wedi 'i dalu—a mi gaiff y Cymry, druain, Efengyl am dipyn eto, a chymered pawb eraill'u siawns! Mae nghydwybod i yn dawel,' a mi gysges fel top y nos waith hono, syr.'

Cyrhaeddasom station—nid wyf yn cofio ei henw a phrin y cafodd y trên sefyll cyn i'r gwr eglwysig ruthro allan. Edrychodd yr ysmygwr ar ei ol: ac wedi tynu ei ben i mewn a chyflwyno yr arian i'r weddw—yr hon, ar y dechreu, oedd yn anmbarod iawn i'w derbyn, ond wedi hyn a'u cymerodd yn ddiolchgar—ebe fe

"Mi wyddwn mai newid ei compartment yr oedd y brawd. Yr ydw i yn nabod yr hen godger yna cyn heddyw. Fe ddaru i'n cyfeilles yma pan soniodd hi am gwrdd a chapel' adamanteiddio olynwr yr apostolion mewn chwinciad! Wni ddim be ydach chi, syr, (gan fy anerch i) o ran eich crefydd, a dydio ddim llawer o bwys gen i. Ond a wyddoch chi? feder y chaps yna ganfod, na deall, na theimlo dim os na fyddant ar dop y clochdy. Y clochdy ydyw eu harsyllfa, eu deddf foesol, a'u hefengyl, a goreu po gyntaf y tynir y clochdy i lawr, meddaf fi. Yr ydach chi yn dallt 'y meddwl i? Fel 'roeddwn i'n deyd wrthoch chi—yr ydw i yn nabod y chap yna cyn heddyw. Mae ganddo living yn Sir Ddinbych, a hono yn un dda—rhy dda o'r hanner i'w groen o. Mae y gymydogaeth wedi ei meddianu gan yr Ymneillduwyr, a'u capeli nhw yn llawn, ac y mae nhw yn talu yn ewyllysgar