Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dydd eu dial hwythau yn dod—dydi eu barnedigaeth nhw ddim yn hepian. Henffych fore! Pan welaf ddydd y Dadgysylltiad—ac yr ydw i'n credu y gwelaf fi o—a phan fydd raid i bawb fyw ar 'i liwt 'i hun, mi fyddaf yn barod i ddeyd 'Yr awr hon y gollyngi dy was'! Wel, dyma fi ymhen fy nhaith. Siwrnai dda i chwi, a pheidiwch a synu os gwelwch chwi finau yn Llandrindod."

Ni welais yr ysmygwr byth ond hyny. Dichon ei fod yn extreme man, ond er hyny yr oedd rhywbeth yn ddymunol ynddo. Bore dranoeth, yn Llandrindod, mi a yfais—fel ynfydion eraill oedd yno—wyth gwydriad o iechyd da i'r ysmygwr, a hyny cyn brecwest.