Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ddail tafod mab a'u galw yn ddail tafod merch, fel y gwneir yn gyffredin. Dywedai rhyw ddyhiryn pe buasai gan y merched ddau dafod—un o bobtu eu safn—y buasai yna lawer iawn i'w ddweyd o bob ochr! hyny. Ond cofier mai dyhiryn a ddywedodd Nid anfynych y clywir saith neu wyth o ferched yn siarad i gyd ar unwaith, a phob un ohonynt yn gallu cymeryd i mewn yr oll o'r ymddyddan heb un anhawsder. Dyma wybodaeth ry ryfedd i'r meibion: uchel yw—ni fedrant oddiwrthi! Mae hyn yn ffaith amlwg, fod mwy o siarad yn bod (ac o ysgrifenu hefyd o ran hyny) nag sydd o feddwl. Pe gwerthid dynion ar yr un egwyddor ag y gwerthwyd y parrot hwnw gynt, sef fel un oedd yn meddwl llawer mwy nag oedd yn siarad, mae lle cryf i ofni mai llonydd a fyddai y farchnad.

Pwy o honom nad yw yn cyfarfod yn feunyddiol â'r dyn sydd yn siarad gormod? Yr ydych yn ei gyfarfod yn aml yn y trên. Hwyrach eich bod wedi cymeryd eich eisteddle o'i flaen ef. Yn y man, y mae yntau yn dyfod i mewn yn sydyn a ffwdanus, a chyn iddo eistedd i lawr, y mae wedi dyweyd " Boreu da i chwi," wedi sylwi ar yr hin, ac ar ddiffygion yr orsaf, wedi dyweyd o ba le y daeth, i ba le y mae yn myned, pa le y bu yr wythnos flaenorol, i bwy y mae yn perthyn, &c., a'r cwbl i gyd ar yr un gwynt; ac os ceisiwch roddi brawddeg i mewn eich hunan, bydd ef wedi ei gorphen cyn i chwi edrych o'ch cwmpas, ac yn carlamu yn ei flaen at rywbeth arall, tra y