Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gorfyddir chwi i ymfoddloni ar ddyweyd rhwng crom fachau, " Ho," ac " Ai ê, " ac " Felly yn wir." Wedi i chwi ymadael a'ch gilydd, ni wyddoch yn y byd mawr pa beth a fydd efe wedi ei ddyweyd, a'r unig effaith a fydd ei hyawdledd wedi ei wneyd arnoch a fydd swn mawr yn eich pen, fel pe byddech newydd ddyfod allan o felin neu factory wlan.

Dosbarth arall llawn mor boenus i un fod yn eu cymdeithas ydyw y rhai tawedog—y rhai sydd yn siarad rhy ychydig. Nid ydyw dystawrwydd bob amser yn arwydd o ddoethineb. Mae rhai yn ddyst aw am eu bod yn yswil, ac eraill am nad oes ganddynt ddim i'w ddweyd. Nis gwyddom pa fodd y bydd y bobl dawedog yn teimlo eu hunain, ond ein profiad ni ein hunain ydyw, mai un o'r pethau mwyaf anffortunus a all ddygwydd i ddyn ydyw gorfod cydgerdded â'r cyfryw am saith neu wyth milldir, neu fod mewn ystaf ell heb neb ond hwy a chwithau yn bresennol. Nid gwaeth a fyddai i chwi ddysgwyl am gael plwm wedi i chwi gymeryd cyfranau mewn gwaith mine na dysgwyl iddynt hwy gymeryd rhan mewn ymddyddan. Eithaf eu hyawdledd ydyw dyweyd ei bod yn debyg i wlaw, neu ei bod yn braf. Wedi i chwi wneyd cais aflwydd ianus at bobpeth ymron, nid oes genych ddim i'w wneyd ond boddloni i fod yn ddystaw, a gwrandaw ar swn eich traed wrth gerdded, neu yr awrlais yn tician, nes y bydd y dystawrwydd wedi myned yn boenus, ac hyd yn nod yn drystfawr.

Dyna ddosbarth arall ydyw y siaradwyr clapiog.