Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae у dosbarth hwn yn awyddus i siarad, ond eu bod yn ddiffygiol o allu. Fel y mae rhai pobl yn peidio tyfu pan yn bur ieuanc, felly hefyd y bydd rhai yn rhoddi heibio dysgu geiriau wedi gadael naw neu ddeg oed. Yr un geiriau sydd ganddynt i adrodd pob hanesyn, ac i fynegu pob teimlad. Yr un ugain gair bob amser, yn cael eu cynorthwo gan yr ymadroddion, "ydach chi 'n gwel'd," "wyddoch," " fel ynte," a " bethma." Os anturiant ddyweyd tae, " gair a mwy na dau sill ynddo, ond odid fawr na chânt godwm, ac y byddwch chwithau yn gorfod rhedeg i'w cynorthwyo i ddyfod dros gamfa y sill olaf! Ac eto maent yn gallu hacio trwyddi yn lled dda os cânt eu ffordd eu hunain. Ond yr aflwydd ydyw, os byddwch mewn brys, eich bod yn gorfod dyweyd hanner yr ys tori eich hunan, er na fyddwch yn ei gwybod.

Ar gyfer y dosbarth a enwyd ddiweddaf, ac yn ffurfio math o eithafion iddo, y mae dosbarth arall a alwn y siaradwyr chwyddedig. Nodwedd arbenicaf y dos barth hwn ydyw, eu bod yn siarad iaith na fedr meidr olion cyffredin ei deall. Mewn un ystyr, y maent yn debyg i Edward Green yn ysgol y Llan er's llawer dydd. Dywedai Edward wrth ei athraw gyda golwg ar ddarllen, nad oedd y geiriau bychain yn werth myn ed i'r drafferth o'u dyweyd, ac fod y geiriau mawr yn rhy anhawdd eu dweyd. Y mae y siaradwyr chwyddedig yn credu y rhan flaenaf o athrawiaeth Green, ond y maent ymhell o gredu y rhan olaf. Pe gofynid i un o'r dosbarth hwn siarad iaith gyffredin y bobl, ystyriai