Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a Siaradwyr yn destyn campus i wneyd darlith arno? Dyna ddrychfeddwl i'r rhai sydd â gwendid ynddynt yn y cyfeiriad hwnw. Cofiwn fod siarad dyn yn gyffredin yn dangos beth sydd ynddo. Os cregin fydd yn y cwd, cregin ddaw allan. Dyma gynghor Catwg Ddoeth, "Gofala beth y gwetych, pa fodd y gwetych, pa le y gwetych, ac wrth bwy y gwetych." Dyma a ddywed yr Hen Lyfr ar y pwnc o siarad, "O helaethrwydd y galon y llefara y genau." "O mor dda yw gair yn ei amser."

Beth sydd oreu.

Ai arian, ai clod sydd orau—i ddyn?
Wn i ddim; ond diau
Na bod yn ol—mae'n olau—
Gwell i ddyn golli y ddau.