Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eich dedwyddwch—ni flina neb chwi â llythyrau—ni lygadrytha neb ar eich ol—ni chwilia neb i'ch hanes—ni feirniada neb eich gwisg. Os digwydd i chwi briodi, a hyny, wrth gwrs, gyda'r amcan o lluosogi cymdeithas y tlodion, ni raid ymorol am weision a morwynion. Mae sefyllfa y cyfoethogion yn hynod o druenus ynglyn â'r peth hwn. Beth all fod yn fwy o flinder i ŵr neu wraig na chlywed y forwyn, yr hon a gafwyd drwy fawr drafferth, wedi iddi fod gyda hwynt am dri diwrnod, yn rhoddi mis o rybudd am fod gormod o waith iddi i'w wneyd, neu rhy ychydig o fwyd iddi i'w gael, neu am na chaiff aros allan hyd ddeg o'r gloch ar y nos? Beth gynhyrfa dymherau dyn yn fwy na phan fydd arno angen am y gwas, ac na fedr wneyd hebddo—iddo ei gael wedi meddwi ac yn cysgu yn y gwellt yn yr ystabl? Arbeda y tlawd yr holl helbul hwn. Ni raid iddo gadw ei hun yn effro drwy y nos, er mwyn galw y forwyn i gyfodi yn ddigon boreu—ni raid iddo gadw dryll llwythog yn nhop y tý rhag ofn lladron—ni raid iddo yswirio ei dy. Os dig wydd iddo fyned i'r gwely heb gofio cloi y drws, raid iddo ddim codi, oblegid nid oes ganddo lawer i'w golli—bydd pobpeth yn eu lle yn y boreu. Nid oes ganddo ystafell y bydd raid iddo fyned iddi yn ei slippers neu yn nhraed ei hosanau rhag ei llygru—nid yw y piano byth yn myn'd allan o gywair—hyd nes y bydd ei badell ffrïo—os bydd yn feddianol ar un, wedi llosgi yn dwll. Arbeda y tlawd y drafferth o fyned i lawr ac i fyny y seler, oblegid nid oes ganddo