Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un, a phe buasai ganddo un, ni fuasai dda i ddim ond i ysbrydion drwblo ynddi. Ni raid i'r tlawd anfon ei blant gan' milldir oddicartref i goleg neu boarding school, er mwyn iddynt anghofio iaith eu mam, a dysgu siarad iaith na fedr ef mo'i deall, a dysgu rhodres fydd yn gwneyd pobl gall yn sâl. Gall ddyfalu ar ddwywaith beth a gaiff i'w ginio os nad biff eidion, mae yn sicr mai " biff у filain fydd, yr hyn o'i gyfieithu yw bacwn! Ond na ofelwch, mae ganddo ystumog fel cyllell, a chalon fel llew. Anaml y mae yn bilious, ac ni wyr fod ganddo yr hyn a eilw y cyfoethog yn constitution. Nid yw byth mewn penbleth pa ddillad i'w gwisgo. Dywedai cyfaill wrthyf y dydd o'r blaen, os mynai ef gael suit o ddillad yn ei goffr, y byddai raid iddo eistedd yn ei grys ar y ceuad, neu ynte fyned i'r gwely, a'r cwrs olaf a gymerai bob amser pan fyddai wedi gwlychu at y croen, yr hyn a ystyriai ef yn fantais fawr. Os tlawd ydych, ni wna neb eich gorbrisio—ni wna neb gamgymeryd eich erwau am eich synwyr—na'ch arian am eich cymeriad. Pan glafychwch, ni chewch eich blino â llawer o ymwelwyr; a phan ewch i farw, ni fydd angen am i chwi wneyd ewyllys, ac ni chaiff neb ei siomi ar eich ol. O sefyllfa hapus, pe baem ond yn gweled hyny!

Hwyrach fod y darllenydd yn meddwl mai cellwair yr ydym; ond mewn difrifwch, y mae gan y tlawd lawer o fanteision gwirioneddol, a champ fawr bywyd ydyw bod yn ddedwydd, a'r unig ffordd i fod yn ddedwydd