Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydyw trwy fod yn dda, defnyddiol a boddlawn. Os ydym yn awyddu am fod yn gyfoethog er mwyn bod yn fwy defnyddiol, purion; ond am bob amcan arall ynglŷn â chyfoeth, hunan ydyw o'r top i'r gwaelod. Nid ydyw hapusrwydd o angenrheidrwydd yn eiddo y cyfoethog mwy nag yn eiddo y tlawd; ac os byddwn sobr a diwyd, heb fod yn gybyddlyd a bydol, yr ydym yn lled debyg o gael ein cadw rhag angen, a chael ein rhan o ddedwyddwch y byd hwn. Dywedai un ei fod wedi dysgu bod yn foddlawn ymhob sefyllfa. Pe buasai y darllenydd yn byw yn yr oes o'r blaen, ac iddo fod wedi digwydd myned i Lundain, ac i heol neillduol yno, ac oherwydd fod y lle yn ddyeithr, iddo fethu cysgu, a phe buasai yn clustfeinio yn oriau mân y boreu, gallasai glywed dau ddyn yn cerdded yr heol, gan siarad a chwerthin yn uchel. Pwy oeddynt? Wel, neb llai na Dr. Samuel Johnson, a'i gyfaill Savage, yn cerdded yr ystrydoedd drwy y nos, am nad oedd dwy geiniog a dimai—yr hyn oll a feddent rhyngddynt yn ddigonol i sicrhau lletý iddynt! Ac eto, yr oeddynt yn gallu chwerthin yn galonog. Nid ydyw y mawrion bob amser yn gyfoethog. Darllenasom am Un nwy na Dr. Johnson yn rhodio ystrydoedd dinas enwog arall, heb le i roddi ei ben i lawr,