Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bobpeth bywydol ac anfywydol, ac y mae yn air y gellir ei ddefnyddio ar bob amgylchiad. Gwelais yn y newyddiaduron am gynllun i ddysgu French mewn chwe' mis, yr hwn â raid fod yn un hynod iawn. Ond yr wyf yn meddwl y gellir myned tu hwnt iddo. Gyda chynorthwy y gair "bethma," gellir dysgu siarad Cymraeg mewn chwech wythnos! Mae ystyr y gair yn eang, amrywiol a phwrpasol. Er engraifft, pan fydd dyn yn sâl, dywedir ei fod yn bethma, a phan fydd yn iach, dywedir ei fod yn bathma. Os bydd un yn gybyddlyd, dywedir mai un digon bethma ydyw; ac os bydd un yn haelionus, dywedir mai un bethma dros ben ydyw. Os bydd dyn yn un cyfrwysgall, un bethma ryfeddol ydyw; ac os bydd un yn ynfyd a gwirion, onid ydyw yn un bethma? Os digwydd i un bregethu yn faith, clywir yn union, oni fu o yn bethma anwedd? ac os digwydd iddi dori y bregeth yn fêr, oni ddarfu iddo ddarfod yn bethma iawn? Gwelir fod y gair yn un hynod bwrpasol, ac y gellir ei ddefnyddio i ddesgrifio beth â fynir. Mae yn air cyfleus iawn i ddau ddosbarth o bobl. Dyna un dosbarth ydyw y bobl hyny nad oes ganddynt ond ychydig o eiriau. Maent yn gallu siarad yn ddidor, ond erbyn i chwi sylwi, rhyw chwech o eiriau yn unig a ddefnyddir ganddynt, a'r gair bethma fel gwas lifrai yn dal pen ceffyl—yn marchogaeth tu ol—ac yn agor ac yn cau drwg cerbyd pob brawddeg! Dyna y dosbarth arall ag y mae y gair yn hwylus iawn iddynt, sef y rhai y mae eu côf yn hwyrdrwm. Mae ganddynt gyflawnder