Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o eiriau, ond fod y rhai hyny yn entfudd pan elwir arnynt; a rhag bod bwlch yn y frawddeg, y mae y bethma yn garedig iawn yn llenwi yr adwy, ac erbyn i bethma wneyd ei waith, y mae y gair a ddymunid wedi cyraedd, ac yn cymeryd ei le priodol.

Prif ogoniant y gair bethma ydyw hyn—tra y mae yn gosod allan unrhyw beth a phobpeth, fod yna gyd-ddealltwriaeth dystaw yn mhawb am ba beth y mae yn sefyll, a phwy y mae yn ei wasanaethu. Ond er mor ragorol ydyw y gair, ac er mor wasanaethgar ydyw, y mae y mynych arferiad o hono ar adegau yn swnio rhyfedd ar y glust. Y dydd o'r blaen, yr oeddwn yn cyfarfod â chymydoges i mi yn dyfod o'r dref. Gwyddwn fod ei gwr yn wael ei iechyd er's peth amser, a gofynais iddi, "Sut y mae Mr. Jones heddyw?" "Wel yn wir," ebe hi, "digon bethma ydi o. Wedi bod yn siop y doctor yr ydw i rwan yn nol bethma iddo fo—os gwnaiff o rw bethma iddo fo. Yn wir, y mae gen i ofn fod o wedi aros yn rhy bethma, fel yr oedd y bethma yn deyd heddyw bore. "Yr oeddwn yn deall ei meddwl yn berffaith. Yr hyn a'm tarawodd yn rhyfedd oedd, os oedd Mr. Jones eisoes yn ddigon bethma, paham yr oedd yn rhaid cyrchu rhagor o bethma iddo. Nid allwn beidio meddwl wedi hyn, pe buasai Mr Jones wedi bod yn fwy cymedrol, a chymeryd llai o'r bethma, na fuasai mor bethma ag ydoedd. Gall yr ymddengys yn paradoxical; ond ffaith ydyw fod bethma yn air ag y mae pawb yn deall am ba beth y mae yn sefyll, âc ar yr un pryd nid oes