Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

air cyffelyb iddo i guddio y meddwl. Un tro yr oeddwn yn myned gyda'r trên. Wedi cymeryd fy eisteddle, daeth i'r un compartment â mi ŵr ieuanc newydd briodi. Daethai ei wraig i'w ddanfon i'r station. Pan oedd y trên ar gychwyn ymaith, a'r gŵr ieuanc â'i ben trwy y ffenestr, ac yn dal ei het yn ei law, ac yn cymeryd yr olwg olaf arni – hyny ydyw, ar ei wraig, nid ar ei het—gwelwn ei anwylyd yn rhedeg ato, ac yn dweyd wrtho—" John, cofiwch am y bethma." " Mi wnaf yn siwr," ebe John. Nid oedd neb yn gwybod—ac nid oedd eisiau i neb wybod beth oedd y bethma—ond yr oedd John yn deall yn burion.

Hawdd iawn a fuasai lliosogi engreifftiau o ddefnyddioldeb y gair pe buasai gofod yn caniatau. Oni allai un ysgrifenu cyfres ddiderfyn o erthyglau o dan y penawd Pethau Bethma? Gyda'r fath deitl, gallai draethu am byth ar bob peth o dan yr haul, ac uwch law yr haul, heb osod ei hun yn agored i gael ei gyhuddo o grwydro oddiwrth y pwnc! Un peth sydd yn fy nharaw i fel peth bethma iawn y dyddiau hyn ydyw y difaterwch dybryd a welir mewn llawer o ieuenctyd ein cynulleidfaoedd am bob gwybodaeth fuddiol ac adeilado. lMae yr ystyriaeth yn un bwysig fod cenedl—neu o leiaf ddosbarth o bobl ieuainc—yn codi sydd yn hynod gydnabyddus â phob comic song, a phob . slang, a phobpeth sydd yn awfully jolly, beth bynag a olygir wrth air mor wirion, ac na fedrant adrodd penill o hymn nac adnod yn gywir. Ac y mae y dull rhodresgar yr ymddygir tuag at bob peth Cymreig yn