Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Darlun.[1]
MAE Mr.—— wedi gweled gwell dyddiau. Byddai yn anhawdd, oddiwrth yr olwg arno, ddyfalu beth ydyw ei oed; ac y mae yntau yn bur i'r clwb henlancyddol—yn gommedd dyweyd ei hunan. Ond gallwn sicrhâu, oddiar awdurdod uchel, ei fod agos os nad wedi cyrhaedd yr addewid. Y mae yn bwysig o gorffolaeth, fel y gallasai "Ffan," ei ferlen ymadawedig, dystio oddiar hir brofiad. Mae ei wyneb yn grwn a llyfndew, heb lawer o flew i'w urddo na'i anurddo. Dynodir ei gymeriad i raddau helaeth gan y mân rychau yn nghonglau ei lygaid meinion, cellweirus.
- ↑ Cymerwyd y darlun hwn from life, fel y dywedir, ond y mae y gwrthrych erbyn hyn, wedi myned trosodd at y mwyafrif er ys tro; eto, gan mor adnabyddus oedd efe, a chan mor gywir ydyw y darlun ohono, nid anmhriodol, efallai, ydyw ei osod i hongian ar faen Y Siswrn.—CYHOEDDWR