Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fel pregethwr, ni ellir ei restru ymhlith y dosbarth blaenaf, nac ymhlith un dosbarth arall; oblegid y mae yn ffurfio dosbarth ynddo ei hun. Nid ydyw yn debyg i neb. Nid ydyw yn ddawnus nac yn ymadroddus; mewn gwirionedd, y mae arno brinder geiriau; er hyny y mae yn boblogaidd yn ei ffordd ei hun, ac nid oes odid i neb yn fwy adnabyddus nag ef trwy Ddê a Gogledd Cymru. Y mae ei ddull yn sefyll yn y pulpud yn neillduol. Y mae yn taflu ei ben braidd yn ol, ac fel pe byddai yn ei suddo ychydig i'w wddf. Bydd y llaw chwith bron yn wastad yn mhoced ei wasgod, a'r llaw arall yn cael ei thynu yn awr ac yn y man trwy ei wallt. Darllena yn gyffredin gyfran o rai o lyfrau Solomon, gan wneyd sylwadau buddiol a digrifol wrth fyned ymlaen. Y mae wedi ymgydnabyddu llawer a Solomon, ac wedi chwilio llawer i'w ysgrifeniadau; ac erbyn hyn y mae wedi dwyn ffrwyth yr ym chwiliad hwnw i ffurf y gall yr oes a ddel ei fwynhâu. Bydd y weddi o flaen y bregeth yn hynod o fèr, heb lawer o "hwyl " ynddi, fel y dywedir. Y mae ei wrandawyr yn bryderus am gael clywed ei destyn, gan ddysgwyl cael yr adnod ryfeddaf a mwyaf digynnyg o fewn y Bibl; ac anfynych y byddant yn cael eu siomi yn hyn. Nodweddir y bregeth gan ystorfa helaeth a manwl o hanesyddiaeth ysgrythyrol. Ni bydd llawer o efengyl ynddi; ond buom yn synu lawer gwaith sut yr oedd yn gallu rhoddi cymaint gyda'r fath destynau. Nid ydyw yn fedrus ar drin pwnc. Clywsom ef unwaith yn gwneyd cais at hyny; ond yr