oeddym yn gorfod teimlo mai y pwnc oedd yn ei drin ef. Pe gofynid i ni roddi cyfrif am ei boblogrwydd, atebem ei fod i'w briodoli i'w adnabyddiaeth helaeth o'r natur ddynol, ei arabedd, a'i naturioldeb.
Mae yn cadw i fyny ei neillduolrwydd yn y Cyfarfod Misol. Os na bydd yn dygwydd bod yn llywydd, byddai yn orchwyl caled i chwi ei weled yn eistedd yn llonydd am hanner awr. Y mae yn crwydro yn ol ac ymlaen, i mewn ac allan, a gallai dyn dyeithr dybied nad ydyw yn cymeryd sylw o ddim sydd yn myned ymlaen; ond dengys ei awgrymiadau synwyrol yn wastad ei fod all there; a bydd yr awgrym a gynnygia yn cael ei ddyweyd ganddo yn fynych fel pe byddai wedi ei gael y tro diweddaf y bu allan.
Yn y tŷ, y mae yn gwmni difyr a llawen; ac y mae pawb yn gallu agosâu ato a myned yn hyf arno, ac yntau yn gallu gwneyd ei hunan yn hapus a chartrefol lle bynag y byddo, os caiff rywun i ymddyddan âg ef, a digon o siwgwr yn ei dê.
Y mae yn hynod o barchus yn ei Sîr, a rhoddir gair da iddo yn ei gartref; ac y mae yr olaf yn beth mawr iddo ef, am ei fod yn cael ei roddi y tu ol i'w gefn, gan mai anfynych y gwelir ef gartref. Pan wel Duw yn dda ei gymeryd ato ei hun, teimlir colled fawr ar ei ol, a llawer o chwithdod.