Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y Capel

YR ydym yn gorfod credu mai ychydig yw y rhai sydd yn meddu dysgyblaeth a meistrolaeth hollol ar eu meddyliau a'u myfyrdodau; ac ychydig hefyd, tybygaf, ydyw y rhai sydd yn ymwybodol càn lleied o'r gallu gwerthfawr hwn y maent yn feddiannol arno. Nid ydyw diffyg dysgyblaeth meddwl yn dyfod yn fwy i'r golwg yn unman nag yn yr addoldy; a buom yn rhyfeddu lawer gwaith fod yr amlygiad o hono heb ddyrysu y pregethwr, a pheri iddo yntau fyned yn grwydredig ei feddwl.

Rhoddwn ein hunain am fynyd yn lle y pregethwr. Dacw fo wedi cau ei hun i fyny yn y pulpud ar fur pellaf yr addoldy. Mae efe yn awr yn darllen y bennod, fel nad ydyw, o drugaredd, yn gallu gweled yr hyn sydd yn cymeryd lle o'i flaen. Y mae oddeutu dwy ran o dair o'r gynnulleidfa arferol eisoes yn eu