Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heisteddleoedd, ac y mae y rhan arall yn dyfod i mewn drib drab, fel y dywedir. Y mae un yn dyfod i mewn trwy y drws ar y ddê—nid mor ddystaw ag y gallai, y mae yn wir—ond gyda ei fod yn y golwg, y mae yr holl gynnulleidfa ag sydd yn gallu ei weled yn troi eu llygaid ato, ac yn cadw eu llygaid arno nes iddo gyrhaedd ei eisteddle, a rhoi ei het yn ei lle priodol gyda'r hwn orchwyl y bydd ystŵr nid ychydig, weithiau. Ac wedi iddo roddi ei ben i lawr, neu ynte roddi ei law ar ei dalcen, bydd y gynnulleidfa wedi darfod gydag ef. Gyda bod hyn drosodd, y mae dynes barchus yn dyfod i mewn, trwy y drws ar yr ochr chwith; ac er ei bod yn aelod ffyddlawn o'r gynnulleidfa, a phawb yn ei hadwaen yn dda, eto y mae yn rhaid i'r gynnulleidfa gael edrych arni hithau, a'i dilyn â'u llygaid nes y bydd wedi eistedd i lawr, fel pe byddent yn ofni ei bod er y Sabboth blaenorol wedi anghofio pa le yr oedd ei heisteddle arferol. Os bydd ambell un yn para i ddyfod i mewn ar ol dechre y bregeth, bydd y gynnulleidfa yn ymddwyn yn gyffelyb at y rhai hyny.

Yn hyn oll, y mae lle i gredu, nad ydyw y gynnulleidfa yn gyffredinol yn ymwybodol o'u hymddygiad, a llawer llai o wrthuni y peth; ond i un fydd yn y pulpud neu y sêt fawr, y mae yr olyfa yn ddigrifol ac anweddaidd. Ac mor ddiddysgyblaeth ydyw meddw dyn yn gyffredin fel y gwna y trwst lleiaf, a'r amgylchiad distadlaf, dynu ei sylw oddiar yr hyn a ddywed y pregethwr. Dim ond i blentyn bach waeddi, a gwelir