Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr holl gynnulleidfa bron yn troi eu llygaid i chwilio plentyn pwy ydyw, er aflonyddwch i'r pregethwr, a phoen dirfawr i fam y bychan, yr hon sydd yn gwrido ac yn chwysu dan lygaid anfoddus y gynnulleidfa. Ni wnai swn plentyn bach beri llawer o ddyryswch i'r addoliad oni byddai fod y gwrandawyr yn tynu eu sylw oddiar y pregethwr, ac yn ei osod ar y plentyn, ac o ganlyniad yn peri i'r pregethwr anghofio ei lith. Os dygwydd i'r nwy fod â gormod o force arni, ac i frawd caredig frysio i wastadhâu y goleuni, pa raid sydd ar y gynnulleidfa adael i'r pregethwr rwyfo ymlaen ei hun, a gwneyd eu hunain yn oruchwylwyr ar y dyn sydd yn ceisio cywiro y gwall, i weled a ydyw yn gwneyd yn iawn ai peidio? Bydd ambell un yn yr addoliad yn gwneyd sŵn uchel trwy ei ffroenau gyda chynnorthwy ei gadach poced; ac er nad ydyw y dyn ond yn awgrymu i'ch meddwl y gwnaethai aelod rhagorol mewn seindorf bres, eto rhaid i'r gynnulleidfa gael edrych arno!

Hwyrach, wedi ystyried, fod y pethau y cyfeiriwyd atynt yn arwydd o lawn cymaint o ddiffyg defosiwn ag ydyw o ddiffyg dysgyblaeth meddwl. Cadarnhëir hyn, yr ydym yn meddwl, ar adeg y weddi. Pe byddai i un wneyd ei hun yn sylwedydd am dro, yn lle yn addolwr, pan fydd y pregethwr yn gweddïo, gymaint o ddiffyg defosiwn a ganfyddai yn ymddangosiad llawer o'r dyrfa. Canfyddai fod y nifer lliosocaf â'u penau i lawr, neu o leiaf ar ffurf ag sydd yn dangos eu bod yn ceisio cydweddïo â'r pregethwr; ond