Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. Jones y shop a George Rhodric.

MAE yn debyg fod rhyw wir yn y dywediad fod pawb yn fawr yn ei ffordd ei hun. Eglur yw nad yr hyn ydyw dyn ynddo ef ei hyn sydd yn ei wneyd yn fawr, ond yr hyn ydyw o'i gymharu â phobl eraill yn yr un ardal âg ef. Mae a fyno lle gryn lawer â'r hyn sydd yn cyfansoddi mawredd mewn dyn. Ni byddai yr hwn a ystyrir yn fawr mewn un gymydogaeth ond bychan a disylw mewn cymydogaeth arall. Ar yr un pryd, ni byddai yn gyfiawn ynom geisio di feddiannu dyn o'i fawredd ar y dybiaeth na byddai yn fawr pe symudai i ardal arall. Annheg i'r eithaf a fyddai ceisio tynu un iod nac un tipyn oddiwrth fawredd John Jones, neu fel yr adwaenir ef gan ei gymydogion, Mr. Jones y shop. Os na chafodd fanteision addysg yn more ei oes, nid ei fai ef oedd hyny. Pe cawsai hwynt, dilys y buasai wedi gwneyd defnydd