Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hawdd ei foddio, ac un yn talu arian parod yn ddirwgnach. Pan ddaeth y si allan gyntaf am y briodas, nid oedd neb yn fwy zelog yn seinio clodydd doethineb dewisiad Mr. Jones na George Rhodric; ac yn ddystaw bach rhyngddo âg ef ei hun, dysgwyliai ysglyfaeth nid bychan ynglŷn â'r amgylchiad; ac er iddo, pan agosäodd yr amser, gael ei siomi yn y peth diweddaf, nid allai lai na chanmawl cynnildeb Mr. Jones, pan adgofiodd mai yn ddiweddar iawn y gwnaethai efe suit newydd iddo, ac fod hono yn un eithaf pwrpasol i'r amgylchiad hapus, er, ar yr un pryd, yr oedd yn gorfod cyfaddef wrth ei brentis na buasai neb yn beio Mr. Jones am gael suit newydd gogyfer â'i briodas. Ond pa faint oedd ei brofedigaeth, pan ddeallodd, mewn ymddyddan â gwas i Mr. Jones y noson cyn y briodas, fod ei feistr wedi cael dillad newydd o'r dref fawr nesaf? Yr oedd naill ai yn rhy synwyrol, neu ynte yr oedd y brofedigaeth yn ormod iddo allu dyweyd llawer; ond aeth adref â'i ben yn ei blŷf. Yr oedd ganddo faner o ganfas wedi ei pharotoi, a'r geiriau " LLWYDDIANT I'R PÂR IEUANG wedi eu gwneyd o wlanen goch a'u gwnïo yn gywrain arni, yr hon a fwriadasai gwhwfanu o ffenestr y llofft ddydd y briodas; ond ar ol yr ymddyddan y cyfeiriwyd ato, lapiodd hi i fyny mewn papyr llwyd hyd ryw amgylchiad dyfodol. Yr oedd yn dda ganddo, erbyn hyn, nad oedd wedi rhoi enwau y pâr ieuanc ar y faner, fel y bwriadasai ar y cyntaf. Sylwyd, ddydd y briodas, gan y cymydogion, na ddaeth George Rhodric na'i