Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i "ddyweyd gair" ar unrhyw fater, byddai Rhodric fel pe buasai yn llyncu pob gair a ddeuai o'i enau, ac yn porthi y gwasanaeth yn y fath fodd fel ag y buasai dyn llai synwyrol na Mr. Jones yn ymfalchïo, ac yn myned i feddwl llawer o'i ddawn; ond ar ol yr am gylchiadau y cyfeiriwyd atynt, byddai George Rhodric naill ai yn ymddangos mewn myfyrdod dwfn neu ynte yn troi dalenau y llyfr hymnau.

Buasai yn beth i ryfeddu ato pe na buasai cysylltiad newydd Mr. Jones â theulu oedd yn dda arnynt, ac yntau ei hun eisoes mewn amgylchiadau cysurus, heb effeithio rhyw gymaint ar fanteision ac ymddangosiad ei fasnachdy. Nid hir y bu, pa fodd bynag, heb wneyd y tŷ yn llawer helaethach, a'r shop yn llawer mwy cyfleus a golygus. Ond yr hyn a synodd rai o'r cymydogion fwyaf oedd y cyfnewidiad yn y sign uwch ben y faelfa. Yr hyn a arferai fod ar yr hen sign oedd, "J. Jones, Grocer. Licensed to sell Tobacco." Ond ar y sign newydd, yr hon oedd gymaint ddwy waith â'r un flaenorol, yr oedd, "J. R. Jones, Provision Merchant." Cafodd rhai o'r ardalwyr diniwed eu twyllo yn hollol pan welsant y sign newydd. Tybiasant ar unwaith fod Mr. Jones yn bwriadu gadael y gymydogaeth, a myned i fyw ar ei arian, a'i fod yn parotoi y shop i ryw berthynas agos iddo, ac y bydd ai'r fasnach yn rhywbeth hollol wahanol i'r hyn oedd wedi arfer a bod, hyd nes yr aeth rhai o honynt at George Rhodric. Wel, yr ydych yn rhai diniwed, bobl bach," ebe fe; "oni wyddoch beth ydyw y llythyren