Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyntaf yn enw teulu Mrs. Jones? ac oni wyddoch fod yr enw J. Jones yn enw common iawn—annheilwng o ddyn cyfoethog? 'Does dim eisieu i neb ddeyd wrtha i pwy sydd wedi bod wrth y gwaith yna. Mae Mr. Jones yn ddyn da; ond y mae llawer dyn da cyn hyn wedi cael ei andwyo gan ei wraig. Mi feder balchder wneyd ei ffordd i le gwledig fel hyn, yr un i Lunden. Dyna meddwl i."

Afreidiol yw dyweyd fod sylwadau ac awgrymiadau George Rhodric wedi taflu y fath oleuni ar y cyfnewidiadau y cyfeiriwyd atynt nes llwyr foddloni meddyliau ei edmygwyr ar sefyllfa pethau, ac fod ei dreiddgarwch a'i ddoethineb yn fwy yn eu golwg nag erioed; ac ni ddarfu un o honynt ddychymygu am foment fod un gair a ddywedodd yn tarddu oddiar genfigen.

Teg ydyw hysbysu y darllenydd mai nid trwy lygaid George Rhodric yr edrychai mwyafrif cymydogion Mr. Jones, ac yn enwedig pobl y capel, ar y cyfnewidiadau a gymerasent le yn ei amgylchiadau. Gan fod yr eglwys y perthynai Mr. Jones iddi yn cael ei gwneyd i fyny gan mwyaf o bobl lled dlodion, yr oodd efe, er ys amser bellach, yn gefn mawr iddi mewn ystyr arianol; ac yr oedd y parch a delid iddo yn gyffredinol gan yr eglwys yn tarddu, nid yn gymaint oddiar yr ystyriaeth ei fod yn uwch mewn ystyr fydol na'r cyffredin o honynt hwy, ond oddiar anwyldeb dwfn â gynnyrchwyd gan ei garedigrwydd, ei haelioni crefyddol, a'i gymeriad gloew, Credu yr