Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydym y buasai William Thomas, y pen blaenor, yn tori ei galon pe dygwyddasai i amgylchiadau gymeryd Mr. Jones o'r gymydogaeth, gan fel yr oedd yn ei garu fel y cyfaill goreu y cyfarfyddodd ag ef ar y ddaear. Gan i ni son am William Thomas, mae efe yn teilyngu i ni ei ddwyn i bennod arall.

Mr. Jones y shop a William Thomas.

TUA'R adeg yr ydym yn ysgrifenu yn ei chylch, nid oedd ar yr eglwys y perthynai Mr Jones iddi ond dau flaenor yn unig, ac edrychid ar William Thomas fel y pen blaenor. Ennillodd y swydd, a'r uchafiaeth yn y swydd, yn gwbl yn rhinwedd purdeb ei gymeriad ac ysbrydolrwydd ei grefydd. Gweithiwr mewn ffermdy a fuasai ei dad o'i flaen, a gweithiwr yn yr un man ydoedd yntau. Nid ennillasai erioed fwy na deunaw swllt yn yr wythnos. Magasai loned tŷ o blant, ac o anghenrheidrwydd ni chododd yn ei fywyd uwchlaw prinder. Ond er hyn, yr oedd efe, yn ddiau, y cyfoethocaf tuag at Dduw yn