yr holl gymydogaeth; ac ni theimlodd bangfa anghen erioed ond fel yr oedd yn anfantais ynglŷn â chrefydd. Yn y wedd hon, teimlodd i'r byw, a llawer tro y llifodd y dagrau dros ei ruddiau am na fedrai roddi lletty i bregethwr, na chyfranu fel y dymunai at ryw achos y byddai ei galon yn llosgi am ei lwyddiant. Er cymaint oedd y gwahaniaeth yn eu sefyllfa fydol, llawer tro y teimlasai Mr. Jones yn y cyfarfodydd eglwysig y buasai yn barod i roddi ei shop a'i holl eiddo am grefydd ac ysbrydolrwydd William Thomas.
Rhwng fod Mr. Jones wedi bod mor gaeth i'w fasnach, a William Thomas yn byw bellder o ddwy filldir mewn diffeithwch yn y wlad, ni buasai y blaenaf erioed yn nhŷ y diweddaf, er iddo addaw iddo ei hun y pleser hwnw ugeiniau o weithiau. Ond un prydnawngwaith yn mis Mehefin, cyfeiriodd Mr. Jones ei gamrau tuag yno; ac wedi dyfod o hyd i babell yr hen bererin, safodd am enyd mewn syndod yn edrych arno. Er ei fod yn weddol gydnabyddus âg amgylchiadau W. Thomas, ni feddyliodd erioed ei fod yn preswylio mewn annedd mor ddiaddurn; ac nid allai lai, yn yr olwg arno, na gofyn iddo ei hun, wrth adgofio y gwleddoedd a fwynhasai yn nghymdeithas ei breswylydd, ai onid oedd iselder sefyllfa a chyfyngder amgylchiadau yn fanteisiol i adgynnyrchu ysbryd yr Hwn nad oedd ganddo le i roddi ei ben i lawr. "Tŷ a siamber," fel y dywedir, oedd yr annedd, a thô gwellt arno. Yr oedd gwal isel o'i flaen, a llidiart bychan gyferbyn â drws y tŷ. Yr oedd yn hawdd