Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweled oddiwrth y llestri a'r celfi oeddynt ar hyd y wal, eu bod yno am nad oedd ystafell briodol i dderbyn y cyfryw oddimewn. Ar y naill ochr i'r tŷ, yr oedd gardd fechan a thaclus; ar yr ochr arall yr oedd popty, o wneuthuriad diammheuol y preswylydd, neu ynte un o'i hynafiaid. Ar ben simdde yr adeilad, yr oedd padell bridd heb yr un gwaelod iddi, ac wedi ei throi â'i gwyneb yn isaf. Ychydig y naill du yr oedd adeilad bychan arall, lle y porthid un o hiliogaeth creaduriaid rhochlyd gwlad y Gadareniaid. Yr oedd yr adeilad hwn yn ddiweddarach o ran arddull na'r tŷ annedd, gan fod iddo lofft â mynediad i mewn iddi o'r tu allan, lle y cysgai rhyw arall o greaduriaid, ac o ba le hefyd y clywid, yn oriau cyntaf y bore—gan nad pa mor dderbyniol a fyddai hyny i'r chwyrnwr a gysgai yn y gwellt odditano—lais uchel a chlir y rhybuddiwr a weithredodd mor effeithiol ar Simon Pedr gynt. Tra yr oedd Mr. Jones yn edrych o'i gwmpas, daeth bachgen bychan bywiog ar ei redeg i ddrws y tŷ; ond càn gynted ag y gwelodd efe y gwr dyeithr, rhedodd yn ei ol, gan waeddi ar ei fam fod dyn yr adnod " wrth у llidiart. Gelwid Mr. Jones yn "ddyn yr adnod" gan blant William Thomas am mai efe yn gyffredin a fyddai yn gwrandaw y plant yn dyweyd eu hadnodau yn y cyfarfodydd eglwysig.

Daeth y fam, yr hon oedd gryn lawer yn ieuengach na'r gŵr, i gyfarfod Mr. Jones; a gwahoddodd ef i ddyfod i mewn, "os gallai," gan gyfeirio yn ddiammheu at fychander y drws. Yr oedd William Thomas