erbyn hyn wedi sylweddoli ei ddyfodiad, ac wedi tynu ei yspectol, a'i wyneb yn dysgleirio gan lawenydd. Canfyddodd Mr. Jones nad oedd gwedd dufewnol y tŷ yn rhagori llawer ar yr allanol. Yr oedd hyny o ddodrefn oedd yno yn hynafol, ac yn ymddangos eu bod wedi gwasanaethu llawer cenedlaeth. Ar un ochr i'r tân yr oedd hen settle dderw, lle y gallai tri neu bedwar eistedd; yr ochr arall yr oedd cadair ddwy fraich, i'r hon yr arweiniwyd Mr. Jones. Yr oedd y cyfleusderau eraill i eistedd yn gynnwysedig mewn ystolion, y rhai oeddynt yn amrywio mewn maint a llun; a rhwng y rhai hyny a'r plant yr oedd cryn gyfatebiaeth. Nid oedd yr hyn a alwent yn fwrdd, mewn gwirionedd, ond ystôl megys wedi gordyfu; a gallai yr anghyfarwydd dybied mai hi ydoedd mam yr holl ystolion eraill. Yr oedd muriau yr annedd yn llwydion, ac yn hollol ddiaddurn, oddigerth gan un neu ddau o ddarluniau a gymerasid o "gyhoeddiad y corff," ac a ddodasid mewn hen fframiau, un o ba rai oedd darlun o'r diweddar Barch. Henry Rees. Yr oedd y darlun yn ymddangos yn lled newydd, ond yr oedd y ffrâm yn dangos yn rhy eglur ei bod wedi gwasanaethu darlun neu ddarluniau eraill, y rhai oeddynt oll wedi gorfod rhoddi lle i'w gwell. Y dodrefnyn gwerthfawrocaf yn y tŷ oedd hen awrlais â gwyneb pres iddo, yr hwn, yn ol pob golwg, oedd wedi disgyn o dad i fab am genedlaethau, ac wedi duo cymaint gan henaint fel nad ellid dyweyd pa faint ydoedd ar y gloch arno heb fyned yn glos i'w ymyl.