Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ofyn ffafr genych." "Ffafr gen'i, Mr. Jones bach?" ebe fe. "Ië, ffafr genych chwi, W. Thomas. Yr wyf yn deall fod teulu y Fron Hên yn ymadael â'r gymydogaeth; a chwi a wyddoch nad oedd neb ond hwy yn arfer derbyn pregethwyr yma; ac nid wyf wedi clywed fod un lle arall yn agor i'w derbyn; ac y mae Mrs. Jones a minnau wedi bod yn siarad â'n gilydd am ofyn i chwi a gawn ni eu croesawu. Yrwan, ar ol i ni altro y tŷ acw, yr wyf yn meddwl y gallwn eu gwneyd yn lled gysurus. A dyweyd y gwir i chwi, William Thomas, dyna oedd un amcan mawr mewn golwg genyf wrth wneyd y lle acw gymaint yn fwy; bod dipyn yn fwy defnyddiol gyda'r achos, os byddwch mor garedig a chaniatau ein cais. "

Ar hyn daeth rhywbeth i wddf W. Thomas, fel nad allai ateb mewn mynyd. O'r diwedd dywedodd ei fod yn ofni ei fod wedi cael anwyd, gan fod rhyw grugni yn ei wddf, ac yn wir ei fod yn teimlo ei lygaid yn weiniaid. Nid oedd yr anwyd hwn, pa fodd bynag, ond o fyr parhâd, canys ennillodd W. Thomas ei lais clir arferol yn fuan. "Wel, bendith arnoch, Mr. Jones! yr ydych yn garedig dros ben, ac wedi cymeryd baich mawr oddiar fy meddwl i, sydd wedi peri i mi fethu cysgu yn iawn er pan glywais fod fy nghyd—swyddog a'i deulu o'r Fron Hên yn myn'd i'n gadael. Yr oeddwn i yn dirgel gredu o hyd yr agorai yr Arglwydd ddrws o ymwared i ni rhag i'w weision orfod ysgwyd y llwch oddiwrth eu traed yn yr ardal yma. Chwi wyddoch, Mr. Jones, fod yma eraill yn meddu ar y