Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn tybied os cyflawnant un gorchymyn yn lled dda fod hyny yn gwneyd i fyny am orchymyn arall tebyg iddo. Mae ambell ddyn da yn meddwl os bydd o yn cyfranu yn haelionus at y weinidogaeth, fod hyny yn gwneyd i fyny am letygarwch, er ei fod, hwyrach, yn meddu tŷ da a chysurus, a digon o eiddo. Ond y mae hyny yn gamgymeriad, yr ydw' i yn meddwl; yr hen drefn sydd iawn. Diolch yn fawr i chwi, Mr. Jones; mi gewch fendith yn siwr i chwi." "Yr ydych yn hollol yn eich lle gyda golwg ar lettygarwch, William Thomas," ebe Mr. Jones; "a chan fy mod wedi cael fy neges, rhaid i mi ddyweyd nos dawch i chwi i gyd, a hwylio at yr hen lyfrau acw." Ond cyn ymadael galwodd ato bob un o'r plant, a rhoddodd ddarn gwyn yn llaw pob un; ac os rhaid dyweyd y gwir, yr oedd yn well gan y crefyddolion bychain gael y darn gwyn na chael dyweyd adnod. Fel yr oedd Mr. Jones yn agosâu at y drws, yr oedd llaw ddehau William Thomas yn dyrchafu yn raddol i uwchder ei ben; ac fel yr oedd Mr. Jones yn yr act o gau y drws ar ei ol, daeth y llaw i lawr gyda nerth i gyffyrddiad â phen ei lin. "Mary," ebe efe, " rhaid i ni gael gwneyd Mr. Jones yn flaenor!"