Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

William Thomas a'r dewis Blaenoriaid.

WEDI i deulu y Fron Hên ymadael a'r fro, llettŷid pob pregethwr a ddeuai i'r daith gan Mr. Jones y shop; a gadawyd William Thomas yn unig swyddog ar yr eglwys. Pa opiniynau bynag eraill a ddaliai yr hen flaenor yn wleidyddol ac eglwysyddol, nid oedd yn credu mewn unbenaeth; a mynych y cwynai o herwydd ei unigrwydd yn yswydd, ac y dangosai yr anghenrheidrwydd am gael rhywrai i'w gynnorthwyo. Gan fod Mr. Jones y shop yn cymeryd gofal y llyfrau, ac hefyd yn gweithredu fel trysorydd, yr oedd mwyafrif yr eglwys yn teimlo yn ddigon boddlawn i bethau aros fel yr oeddynt. Ond dadleuai William Thomas drachefn ei henaint a'i