Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un heb fod yn cyfranu fel y bydd Duw wedi ei lwyddo, pan elwir ar y brawd hwnw at ryw wasanaeth cyhoeddus, nid yw y blaenor yn gallu cydaddoli a'i holl galon fel y gall yr hwn nad yw yn gwybod. Pan fyddwch yn myned i ddewis, fy mrodyr, gofelwch nid yn unig am ddynion â chrefydd dda ganddynt, ond gofelwch am rai yn meddu ar ddynoliaeth dda hefyd, heb yr un crac yn eu caritor. Ni wnaiff ychwanego gyfrifoldeb, a chwaneg o bwysau wella'r crac, ond yn hytrach beri iddo ymagor ac ymollwng. Os bydd crac neu bydrni yn moth yr olwyn, fel y gwyddoch, er fod cànt cryf amdano, ni wna llwyth trwm ddaioni yn y byd iddo. Yr un modd, er i chwi wybod fod dyn wedi cael cànt cryf gras amdano, os bydd crac yn ei garitor, ni wna swydd ond ychwanegu ei berygl. Aci mi ddyweyd fy mhrofiad fy hun i chwi, yr wyf yn credu fod tlodi, er nad yn anghymhwyder, yn anfantais fawr i ddyn fod yn flaenor. Nid all y blaenor tlawd annog i letygarwch a haelioni crefyddol fel y dymunai wneyd. Bydd raid iddo hefyd wrth ei swydd ymwneyd â llawer o arian perthynol i'r achos; ac y mae arian yn brofedigaeth i ddyn fydd mewn anghen Anhawdd ydyw i sach wâg sefyll yn unionsyth. Yr wyf fi, fel y gwyddoch, wedi gwrthod bob amser fod yn drysorydd i unrhyw fund. Os beunyddol. gellwch, dewiswch ddynion na bydd arian yn brofedigaeth iddynt. (Mr. Jones y shop yn chwys dyferol.) Os bydd pob peth arall yn cydfyned, da a fyddai i chwi gael dynion parod o ran dawn gweddi, a gallu i