Tudalen:Y Siswrn Daniel Owen.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

siarad yn gyhoeddus. (George Rhodric yn edrych i dop y capel.) Profedigaeth fawr llawer blaenor ydyw ei fod yn ddi-ddawn; oblegid bydd gwaith cyhoeddus yn fynych yn syrthio i'w ran pan fydd pawb eraill naill ai yn anmharod neu ynte yn anufudd. Mae o bwys i chwi hefyd, fy nghyfeillion, gael dynion ag y bydd eu cyd ymdeimlad yn ddwfn â'r pregethwr. Melldith i eglwys ydyw blaenor brwnt a phigog. Mae llawer oedfa wedi cael ei handwyo o herwydd ymddygiad anserchog ac oer y blaenor tuag at y pregethwr; ac, o'r ochr arall, y mae llawer pregethwr wedi cael iechyd i'w galon a chodiad i'w ysbryd mewn pum' mynyd o ymddyddan serchoglawn â'r blaenor cyn myned i'r capel. Ceisiwch, os gellwch, ddewis dynion y bydd eu hysbryd yn cydredeg âg yspryd y pregethwr, a'u calon yn llosgi am lwyddiant ei amcan mawr. Na ddiystyrwch ieuenctyd neb. Os ydych yn gweled yma ryw fachgenyn addawol, darllengar, a ffyddlawn, er nad oes ganddo ond dwy dorth a dau bysgodyn, na throwch ef o'r naill du oherwydd ei ieuenctyd. (Noah Rees yn rhoi ei ben i lawr.) Pan ddaw yr adeg i chwi ddewis, bydded i chwi, fy nghyfeillion, gael eich cynhyrfu oddiar gyd wybod i Dduw, ac nid oddiar amcanion hunanol a phersonol."

Aeth yr hen flaenor ymlaen yn y dull uchod am yspaid; ac ar y diwedd annogodd un o'r enw Peter Watcyn, yr hwn a gyfrifid ei fod yn deall Saesonaeg yn dda, i egluro i'r frawdoliaeth y drefn o ddewis swyddogion y penodasid arni gan y Corff, yr hwn a wnaeth