ochr oreu, ac na welodd ac na chlywodd, er chwilio a chlustfeinio ei goreu, yr un Sais yn y cyfarfod, ond yn hytrach pregethwr a blaenor. Y cyntaf a adwaenai yn dda, ac oedd anwyl iawn ganddi. Ac yr oedd Gwen druan yn diolch o'i chalon nad oedd crefyddwyr yr oes hon wedi myned i dir mor bell ag yr oedd hi wedi ofni.
Dewis Blaenoriaid
MOR chwithig a digrifol a fyddai clywed un yn anerch ei gyd-aelodau eglwysig ac yn rhoddi ei farn iddynt ar y Fugeiliaeth, Cronfa y Gweinidogion, Cyfansoddiad y Gymdeithasfa, achosion tramor y Cyfundeb, sef y cenadaethau, addysg y Colegau, rhyfeloedd cartrefol, a rhyfeloedd gydag enwadau eraill, gan addaw gwneyd hyn a'r llall os dewisid ef yn flaenor! Onid edrychid ar y fath un fel un hollol annheilwng o gael ei ddewis? Ac eto ni feddyliai neb synhwyrol am roddi ei bleidlais i ymgeisydd am eisteddle seneddol heb yn gyntaf gael gwybod ei opiniynau ar brif bynciau y dydd, a chael addewid ddifrifol ganddo y byddai iddo bleidleisio dros,